Click here
Click above to view our
Strategic Plan
(Adobe Acrobat® Required)

Amdanom ni – O’r Cymoedd i’r Arfordir

V2C oedd y gymdeithas tai gyntaf yng Nghymru i gael ei sefydlu trwy drosglwyddo cartrefi, ar raddfa fawr, o awdurdod lleol. 

Fe sefydlwyd V2C ym mis Medi 2003 ac mae h’n berchen ar ac yn rheoli mwy na 6,000 o gartrefi mewn amrywiaeth aruthrol o ardaloedd mewn cymoedd a threfi ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Ar ben hynny mae V2C yn darparu gwasanaethau rheoli i oddeutu 780 o les-ddeiliaid.

Fe gawn ein hariannu gan gonsortiwm sy’n cynnwys Cymdeithasau Adeiladau y Nationwide a’r Principality a’r Banc Buddsoddi Ewropeaidd.  Rydym yn bwriadu gwario oddeutu £65 miliwn erbyn 2014 er mwyn gwella cyflwr y cartrefi yr ydym yn berchen arnynt.

Fodd bynnag mae ein gweledigaeth yn cynnwys llawer mwy na chartrefi yn unig; rydym hefyd yn teimlo'n angerddol ynghylch meithrin a rhoi cymorth i gymunedau ffyniannus a hybu cysylltiadau lleol.

Fel rhan o hyn rydym yn sylweddoli bod rhaid inni ddarparu dewisiadau tai fforddiadwy i lawer mwy o bobl nag y gallwn eu cynorthwyo ar hyn o bryd.  Felly rydym hefyd yn buddsoddi mewn darparu cartrefi newydd er mwyn ehangu ein maes cyfrifoldeb.

Cliciwch yma i weld arolwg ar ein Cynllun Strategol.